Dilys ElizabethTHOMASYn dawel yng Nghartref Gofal Coed Craig, Llandrillo-yn-Rhos ar y 5ed o Fehefin 2025 (o Creigiau, Betws y Coed gynt). Yn 97 mlwydd oed. Priod y diweddar Robert Thomas, mam a mam yng nghyfraith Merfyn ac Alwena, Geraint a Marion, Bryn a Marian. Nain a hen nain annwyl. Colled enfawr i'w theulu oll, ei ffrindiau a'i chymuned. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bae Colwyn, dydd Llun, 30ain o Fehefin am 11.45 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion, os dymunir, yn ddiolchgar tuag at Cymdeithas Alzheimer's Cymru trwy law Robin Roberts, Meredith Jones Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Dolwar, Ffordd Pari, Llanrwst, LL26 0DG. Ffôn 01492 640348
Keep me informed of updates